Ar ddydd Sadwrn, y 15eg o Chwefror, ymgasglodd nifer o bobl ym mae Caerdydd i gefnogi rali Cymdeithas yr Iaith, ‘Sefyll gyda’r 80%: Addysg Gymraeg i Bawb.’ Bwriad y rali oedd galw ar y Senedd i gryfhau Bil y Gymraeg ac Addysg, yn y gobaith i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Dadl Cymdeithas yr Iaith yw bod y bil, sy’n cael ei drafod yn y Senedd ar hyn o bryd, yn “llawer rhy wan.” Hoffai’r Gymdeithas weld pob ysgol yng Nghymru yn troi’n ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac maent yn beirniadu “diffyg egni a diffyg cyfeiriad” y Llywodraeth am iddyn nhw beidio blaenoriaethu hyn.

“Mae Aelodau’r Senedd yn hoff o ddweud bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ond mae eu gweithredoedd yn awgrymu’r gwrthwyneb,” meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r system addysg yn amddifadu 80% o’n plant o’r hawl i allu defnyddio’r Gymraeg,” ychwanegodd.

Mewn arolwg barn ddiweddar gan YouGov, mynegodd 59% o bobl y dylai ysgolion anelu i addysgu pob disgybl i fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Yn ogystal, mewn arolwg arall, mynegodd 72% o’r Cymry ei bod o leiaf braidd yn bwysig i blant Cymru ddysgu’r Gymraeg mewn ysgolion.

Wrth siarad o flaen y dorf yn y rali, dywedodd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith, “Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth yw’r bil yma. Rhaid inni felly beidio â cholli’r cyfle, a cholli cenhedlaeth arall o blant i system sy’n eu gadael nhw lawr.”

Er hyn, pryder Ceri Evans, Llywydd UCAC, yw nad oes digon o athrawon cyfrwng Cymraeg ar gael i ddysgu plant. Pwysleisiodd bod angen i Lywodraeth Cymru “ffeindio’r arian o rywle – heb yr arian ‘na does dim digon o athrawon cyfrwng Cymraeg i allu cynnig y pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.”

“Os dy’ nhw ddim yma wedyn ma’r gobaith o gael y miliwn o siaradwyr byth yn mynd i gael ei wireddu,” meddai.

Ymysg y siaradwyr eraill roedd y bardd a’r llenor Hammad Rind, Kiera Marshall o Blaid Cymru, Owain Siôn o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a Dr Catrin Edwards o’r Mudiad Meithrin.

Ers y rali, mae Cymdeithas yr Iaith wedi postio lluniau ar Instagram a Facebook gan ddiolch i’r rheini fu’n cefnogi’r achos. Nid yw’r Senedd wedi ymateb eto, ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu bod wedi gadael neges i Mark Drakeford, a bod ganddynt gynlluniau i barhau i ymgyrchu dros gryfhau’r bil hwn.