Rhwng yr 21ain a’r 23ain o Dachwedd, heidiodd myfyrwyr Cymraeg y wlad i Aberystwyth ar gyfer y Ddawns Ryng-golegol flynyddol, ac roedd hi’n sicr yn benwythnos llawn hwyl a sbri!
Mae’r Ddawns yn cael ei threfnu yn flynyddol gan UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), ac mae’n un o uchafbwyntiau’r calendr academaidd i fyfyrwyr Cymraeg Cymru.
Mae’n benwythnos prysur, llawn gwahanol weithgareddau, ond y prif ddigwyddiad bob blwyddyn yw’r gig sy’n cael ei gynnal ar y nos Sadwrn yn Undeb y Myfyrwyr.
Eleni, yr artistiaid fu’n serennu a’n diddanu’r myfyrwyr oedd Maes Parcio, Buddug a Bwncath.
Ymgasglodd y myfyrwyr mewn crysau llachar i gynrychioli eu gwahanol brifysgolion a’u cymdeithasau Cymraeg.
Roedd môr o liwiau’n llenwi Undeb y Myfyrwyr, gyda Chaerdydd mewn crysau glas tywyll, Aberystwyth mewn glas golau, Bangor mewn pinc, ac Abertawe mewn du, i enwi ond rhai.
Ar gefn y crysau, roedd gan bob prifysgol ei limrig chwareus, a ddyfeisiwyd gan ambell fyfyriwr mentrus!
Yn ogystal â’r gig, cynhaliwyd llu o ddigwyddiadau eraill yn ystod y penwythnos, yn gyfle i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion gymdeithasu ynghyd!
Treuliodd y myfyrwyr eu nos Wener yn nhafarn Yr Hen Lew Du yng nghanol y dref, ble cafwyd hen ddigon o garioci i dwymo lan ar gyfer y gig mawr!
Wedyn, yn syth i’r cae pêl droed ar y bore dydd Sadwrn ar gyfer ambell gêm gyfeillgar rhwng y gwahanol brifysgolion.
Dywedodd Teifi Mead, llywydd Y GymGym (Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd) eleni, “Ni di cael penwythnos llawn hwyl! Mae’n bwysig iawn fod y prifysgolion Cymraeg yn dod ynghyd oherwydd mae’n siawns i’r Cymry ifanc gysylltu a hybu’r iaith a’r gymuned Gymraeg.”
“Fi’n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad rhyng-gol nesaf, yn enwedig gan ei fod adref i ni yng Nghaerdydd am y tro cyntaf mewn blynyddoedd.”
Y Ddawns yw un o ddau ddigwyddiad rhynggolegol a gynhelir yn flynyddol. Yr Eisteddfod Ryng-gol, yn ystod semester y Gwanwyn, fydd y cyfle nesaf i’r myfyrwyr ddod ynghyd i gymdeithasu ac arddangos eu doniau.
Eleni, bydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, ac mae Cynwal Ap Myrddin, Is-Lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, a rhai o fyfyrwyr y Brifysgol eisoes wedi dechrau trefnu’r digwyddiad, ac yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r Ddinas mewn maes o law!

