Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd O’r 3ydd i 18fed o Hydref, bydd Caerdydd yn troi’n ganolfan gerddoriaeth fyw a bywiog wrth i’r ddinas groesawu Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd unwaith eto. Daw cerddorion at ei gilydd i greu profiadau unigryw a fydd yn ymestyn trwy ganol calon y ddinas hyd at ddŵr croyw Bae Caerdydd. Bydd yn gyfle gwych i gymdeithasu gyda ffrindiau a chael blas o dalentau’r sêr byd eang.

Llais a Sŵn Bydd gŵyl Llais yn cael ei chynnal fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd rhwng y 6ed a 12fed o Hydref, gyda rhaglen amrywiol sy’n cynnwys perfformiad unigryw gan Rufus Wainwright, yn ogystal â dychweliad yr eicon indie o Gymru, Cate Le Bon, sy’n cyflwyno albwm newydd. Bydd Adwaith hefyd yn perfformio dwy sioe arbennig er mwyn nodi deng mlynedd ers iddyn nhw ffurfio. Yn dilyn hynny, bydd Gŵyl Sŵn yn cael ei chynnal rhwng 16eg a’r 18fed o Hydref.

Ymhlith y prif enwau eleni mae Gruff Rhys, Sage Todz, Mykki Blanco, a nifer o artistiaid eraill. Mynd i gerdded Wrth i’r haf droi’n hydref yng Nghaerdydd, daw lliwiau newydd i’r ddinas. Mae’r dail amryliw yn dod â naws hudolus i Gaerdydd ac yn denu pobl allan i fwynhau’r tymor cyn i’r dail ddisgyn.

Parc Bute: Crwydrwch ar hyd lwybrau glan yr afon, mae’n fan perffaith ar gyfer mynd am dro heddychlon yn yr hydref, neu’n gyfle i sgwrsio gyda ffrindiau. Parc y Rhath: Mwynhewch olygfeydd tawel y llyn, ac ewch i weld yr ardd fotanegol liwgar sy’n arddangos blodau’r hydref - perffaith ar gyfer taith gerdded heddychlon yn yr hydref. Bae Caerdydd: Gallwch fynd lawr i’r bae i weld machlud haul ysblennydd yr hydref ac i fwynhau’r awel braf ar eich wynebau.

Bwyd a diodydd Hydrefol Bydd yr Hydref ddim yn gyflawn heb fwyd a diod gynnes, felly ewch am Latte ‘pumpkin spice’ neu siocled poeth mewn siopau coffi fel Rhostio, Maple and Bean neu Blŵm. Dyma’r ffordd berffaith i ymlacio ar ôl mynd am dro, neu gymryd seibiant o’ch llwyth gwaith. Mae tymor y diodydd oer drosodd, felly cynheswch gyda choffi poeth i’ch paratoi chi ar gyfer y diwrnod.

Marchnadoedd lleol Mae hydref yng Nghaerdydd yn fwrlwm, gyda digonedd o ddigwyddiadau cymunedol sydd gan amlaf yn rhad ac am ddim i’w mynychu. Cynhelir Marchnad Ffermwyr Caerdydd yn Riverside bob dydd Sul, gan gynnig cyfle gwych i flasu cynnyrch tymhorol, diwylliant lleol a chrefftau unigryw. Pigo pwmpenni Mae dewis pwmpen yn weithgaredd boblogaidd sy’n dod yn symbol clasurol o’r tymor hydrefol ac mae yna ddigon o lefydd yn agos at y ddinas sy’n cynnig y profiad yma.

Mae Fferm Clearwell yn Michaelston-le-Pit, tua 25 munud o ganol Caerdydd, yn cynnig y cyfle i chi bigo eich pwmpen ar benwythnosau Hydref, a thrwy gydol hanner tymor yr Hydref hefyd.