Dros yr wythnosau diwethaf, gwelwyd beirniadaeth gref ar lyfrau’r awdur enwog o Gymru, Roald Dahl. Yn wreiddiol o Landaf, mae Dahl yn adnabyddus iawn am ei nofelau enwog megis ‘Charlie and the Chocolate Factory’, ‘Matlida’, a ‘Fantastic Mr. Fox’. Mae nofelau Dahl wedi’u cyfieithu i hyd at 63 o ieithoedd ac wedi gwerthu mwy na 200 miliwn o lyfrau ledled y byd.
Ond yn ddiweddar, gwelwyd llawer yn galw am newid o ran disgrifiadau ymddangosiad rhai o gymeriadau Dahl er mwyn eu gwneud yn addas ar gyfer cynulleidfa fodern. Yn ôl Cwmni Llyfrau Roald Dahl, mae newidiadau “bach a gofalus” wedi’u gwneud i lyfrau Dahl ers 2020. Yn ôl y Telegraph, nid yw’r gair ‘tew’ bellach yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cymeriad ‘Augustus Gloop’ ac yn y nofel ‘Mr & Mrs Twits’, nid yw “iaith Affricanaidd ryfedd” bellach yn cael ei alw’n ‘rhyfedd’. Mae’r gair ‘gwallgof ’ wedi cael ei ddileu o ganlyniad i bwyslais ar iechyd meddwl.
Mae nofelau Dahl wedi’u cyfieithu i hyd at 63 o ieithoedd ac wedi gwerthu mwy na 200 miliwn gwaith.”
Mae rhai yn credu bod angen trin nofelau plant yn ofalus iawn, yn enwedig wrth ystyried y ffordd mae rhai o’r cymeriadau yn cael eu disgrifio, ond mae eraill o’r farn y dylid cadw’r nofelau fel y maent yn wreiddiol. Yn ôl llefarydd ar gyfer y Prif Weinidog, Rishi Sunak dylid cadw gwaith ffuglen fel y mae a pan yn dod i ein hetifeddiaeth llenyddol cyfoethog, ni ddylem chwarae o gwmpas â geiriau. Mae’r nofelwr Sir Salman Rushide hefyd wedi lleisio ei farn am yr addasiadau hyn gan ddweud ar Trydar, “Roald Dahl was no angel but this is absurd censorship... Puffin Books and the Dahl estate should be ashamed.”
Ers hyn, datgelir y bydd llyfrau Dahl i’w cadw mewn print gwreiddiol. Er y feirniadaeth ddiweddar, cyfiawnhaodd Penguin, eu penderfyniad i barhau i gynhyrchu’r fersiynau gwreiddiol gan eu bod yn ‘cydnabod pwysigrwydd cadw testunau clasurol Dahl mewn print.’
datgelir y bydd llyfrau Dahl i’w cadw mewn print gwreiddiol.”
Nôl yn 2020, ymddiheurodd teulu Dahl am ei sylwadau gwrth-Semitaidd mewn cyfweliadau yn 1983 a 1990. Dywedodd y teulu eu bod yn ymddiheuro yn fawr am y ‘loes parhaol a dealladwy a achoswyd.’
Ydych chi’n credu ei bod hi’n dderbyniol i barhau i gynhyrchu fersiynau gwreiddiol o nofelau Dahl?
