Ar drothwy’r cyfnod olaf fel myfyrwyr prifysgol Caerdydd, mae’r mwyafrif ohonom sydd yn y drydedd flwyddyn yn siwr o deimlo’r baich o bryd i’w gilydd. Gyda gofynion arholiadau, gwaith cwrs neu thraethawd hir, mae’r daith tuag ar raddio ar adegau yn gallu teimlo’n llethol iawn. Credaf ei bod yn deg dweud bod llawer ohonom wedi laru trafod beth sydd ar y gweill y flwyddyn nesaf – yn enwedig os nad oes gennych chi ateb i’r cwestiwn hwnnw.
Gall cydbwyso gwaith academaidd a gweithgareddau bywyd cymdeithasol fod yn her i rai, ond mae’n bwysig ein bod ni’n ceisio meistroli’r sgiliau rheoli amser hyn oherwydd i’r rhan fwyaf ohonom, dyma’r ychydig fisoedd sydd gennym ni fel myfyrwyr.
Mae’n bwysig ein bod yn aros yn drefnus gan ddefnyddio cynllunwyr, calendrau neu ddyddiaduron i reoli tasgau i ac i gadw golwg ar derfynau amser, aseiniadau ac arholiadau. Mae rheoli amser yn sgil hanfodol yn eich trydedd flwyddyn – gwnewch yn siwr fod gennych chi slotiau penodol ar gyfer astudio, mynychu darlithoedd / seminarau a gweithio ar aseiniadau.
Wrth reoli’ch amser yn ddoeth, cewch chi ddigon o gyfle i fynychu’r Undeb Myfyrwyr ar nôs fercher cyn i ofynion bywyd ôl- raddedig ddod i’ch cwrdd. Mae lles unigolion yn hollbwysig yn enwedig yng nghanol straen diderfyn astudiaethau y drydedd flwyddyn. Blaenoriaethwch eich hunain yn y cyfnod hwn gan edrych allan am unigolion eraill.
Yng nghanol prysurdeb a gofynion y flwyddyn olaf, gwnewch y mwyaf o’r cyfnod hwn sydd gennych chi fel myfyrwyr prifysgol. Sicrhewch fod gennych chi atgofion tragywyddol o’ch cyfnod yma yng Nghaerdydd – boed hynny’r oriau a dalodd ar ei ganfed yn y llyfrgell, neu’r oriau a dreuliasoch ym mar Clwb Ifor Bach.

