Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Boduan, ond bydd newid blwyddyn nesaf. Ni fydd pafiliwn ond yn hytrach fe fydd dwy ganolfan lai yn gartref i’r cystadlu a’r prif seremonïau. Yn ogystal â’r lleihad yn nifer y seddi yn y canolfannau hyn, dim ond tri chôr/grŵp fydd yn eu cyrraedd i gystadlu yn y rownd derfynol.
Dyma farn rhai o’n myfyrwyr:
Lois Campbell Blwyddyn 3 Cymraeg a Newyddiaduraeth
Pinacl y flwyddyn i nifer o gorau Cymru, a’r rheiny sy’n mwynhau gwledd o ganu corawl yw’r Eisteddfod Genedlaethol. Ond gyda newidiadau diweddar yr Eisteddfod sy’n golygu mai ond 3 o bob cystadleuaeth fydd yn cael ymddangos ar y llwyfan mae hyn, yn fy marn i, yn amharu ar y traddodiad hir o gystadlu corawl sydd gyda ni yng Nghymru. I’r rhan fwyaf o gorau cymunedol, llai cystadleuol, mae’r Eisteddfod yn gyfle i ddangos ffrwyth eu llafur ar y brif lwyfan. Ond gyda’r newidiadau diweddar mae’r elfen gymdeithasol o gystadlu yn diflannu a’n hytrach dwi’n meddwl fod yr Eisteddfod ond yn rhoi cyfle i’r corau proffesiynol, cystadleuol.
Cynwal ap Myrddin Blwyddyn 1 Cymraeg
Mae Côr Meibion Carnguwch yn gôr o ddynion ifanc yn eu 20au/30au sydd wedi codi miloedd o arian at gynnal yr Eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd. Roeddent wedi penderfynu eu bod am gystadlu yn Eisteddfod Boduan gan eu bod nhw’n gôr lleol. Wrth lenwi’r ffurflen gofrestru a darllen y rhestr testunau, doedd dim sôn bod unrhyw beth yn wahanol i’r drefn arferol, gyda’r côr yn edrych ymlaen at gael perfformio ar lwyfan y genedlaethol. Erbyn hyn mae’n annhebygol y bydd Meibion Carnguwch yn cael llwyfan yn sgil y newidiadau diweddaraf, er eu holl ymdrechion i gefnogi’r Eisteddfod a chodi’r holl arian. Mae siom fawr i’w deimlo’n lleol, wrth i Swyddogion yr Eisteddfod ddewis newid y drefn yn ddiarwybod i’r corau a’r pwyllgorau lleol gan golli’r ymddiriedaeth a’r parch hanfodol rhwng y Cymry ar lawr gwlad a’r swyddfa ganolog.
