Dros yr wythnosau nesaf bydd miloedd o Gymry dros hyd a lled y wlad yn bloeddio canu un o ganeuon enwocaf y wlad wrth i’n tîm rygbi gamu i’r cae ym mhencampwriaeth y chwe gwlad. Er mai ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ oedd un o’r caneuon cyfrwng Cymraeg cyntaf i’w recordio ym 1899, erbyn hyn mae gennym ni gyfoeth o ganeuon ac artistiaid Cymraeg a phwysig yw eu dathlu. Dyma yn union a wnaed yng Nghymru ar Ddydd Gwener y 10fed o Chwefror wrth i’r wlad ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Fe gynhaliwyd degau o ddigwyddiadau a gigs mewn tafarndai, neuaddau cymunedol, a chlybiau dros Gymru a’r byd. Eleni yw’r wythfed tro i ni ddathlu’r diwrnod yng Nghymru a’r nod yn 2023 yw ffocysu ar gerddoriaeth o fewn cymunedau gyda’r pwyslais ar gynnal dathliadau mewn mannau cymunedol a lleoliadau bach ynghyd â hyrwyddwyr lleol. Dyma ddiwrnod i ddathlu cerddoriaeth Cymraeg o bob math gan gynnwys pop, funk, roc, hip hop a bandiau ac artistiaid newydd ac annibynnol. Y bwriad yw annog pobl i ddod at ei gilydd i ddathlu a rhannu ystod eang o gerddoriaeth a cherddorion Cymraeg. Ar Ddydd Miwsig Cymru eleni, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi £100,000 ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg ar lawr gwlad ‘fel bod pobl yn mwyhau hyd yn oed mwy o gerddoriaeth.’ Yn ôl gwefan y Llywodraeth, bydd y cyllid yn ‘helpu mwy o bobl i gynnal gigs yn eu cymunedau lleol, gan wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i fwynhau cerddoriaeth o Gymru ac i ddefnyddio’u Cymraeg.’ Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Dydd Miwsig Cymru hapus! Mae’r Gymraeg yn perthyn inni i gyd; dylai pawb yng Nghymru gael cyfle i’w defnyddio ac i gael blas ar hyfrydwch cerddoriaeth Gymraeg. Mae’r cyllid hwn yn bwysig i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu dod ynghyd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg yn eu hardal leol.” Fe fydd y Llywodraeth yn parhau i rannu eu cynlluniau a’r manylion am sut gall cymunedau elwa o’u cynllun grant gan bwysleisio y bydd yn hoelio sylw ar ddatblygu sgiliau a gallu cymunedau i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth byw gan ddefnyddio mentora a rhannu sgiliau i sicrhau hyn. Nid yw’n rhy hwyr i ddathlu cyfoeth cerddorol Cymru, mae modd dilyn @Miwsig a defnyddio #Miwsig i glywed y diweddaraf o’r sin gerddoriaeth yng Nghymru ac i rannu eich argymhellion chi ar gyfryngau cymdeithasol. Ewch i wrando ar restr chwarae Dydd Miwsig Cymru UMCC ar dudalen Spotify ‘Cardiff Students’ i glywed casgliad o hoff ganeuon ac artistiaid myfyrwyr a staff Caerdydd.